Y Talbot

Bar, bwyty a gwesty

Y Sqwar, Tregaron, SY25 6JL

Yn wreiddiol, tafarn porthmyn ydoedd Y Talbot, ac mae wedi gweithredu fel gwesty am o leiaf 400 mlynedd.

Pe medrai’r waliau siarad, buasai ganddynt sawl hanes i’w rannu. Mae’r trawstiau, y lloriau llechen a’r llefydd tân ‘simnai lwfer’ yn llawn cymeriad.

Ar ddiwrnod o aeaf, dyma’r lle perffaith i setlo o flaen y tân gyda phaned o dê neu goffi, neu bryd o fwyd a rhywbeth cryfach i gynhesu bodiau’r traed.

Ar ddiwrnod poeth o haf mae’n fan delfrydol ar gyfer mwynhau diod o bop neu gwrw oer braf.

Rydym yn croesawu plant, cwn ac esgidiau mwdlyd!

 

Gan ddefnyddio’r cynhwysion lleol gorau pan fo modd, mae ein holl fwyd wedi ei baratoi’n ffres.

Gall gwesteion fwyta yn ein bar clyd neu os yn grwp mawr neu’n chwilio am achlysur mwy ffurfiol, yn ein ystafell fwyta “Y Long Room”. Yn ogystal â’r fwydlen helaeth arferol sy’n cynnwys cawl cartref a chig eidion lleol rydym hefyd yn cynnig pysgod ffres o Fae Ceredigion a phryd arbennig y prif gogydd, Dafydd Watkin.

Boed yn arbenigwr bwyd neu jest yn mwynhau pryd traddodiadol wedi ei goginio’n dda, mae gennym rywbeth ar eich cyfer chi. Heb son am y dewis o bwdinau, cacennau a brechdanau cartref ar gael yn ddyddiol!

Palas Print

Siop lyfrau annibynnol o fewn tref gaerog Caernarfon.
Siop a Swyddfa Bost Llanrhystud

Stordy Wyre a Swyddfa Bost

Swyddfa Bost a siop y pentref Llanrhystud.

Gwyndaf Williams a’i Fab – Syniad Da

Siop torri goriadau, engrafu, trwsio esgidiau a batris oriawr.

Platiau Pori

Platiau a bocsys pori o Felinheli.