Priodas Chez Louise Bridal

Gwasanaeth dillad priodas arobryn

21c Pier Street, Aberystwyth, SY23 2LN

Bydd Chez Louise Bridal yn gweithio ochr yn ochr â Harddwch Christa Beauty i ddod â phrofiad siopa newydd i’n cleientiaid.

Cyfle i bob priodferch a’u teuluoedd a’u ffrindiau fwynhau amser da gyda chyngor a phrofiad proffesiynol wrth siopa am y diwrnod mawr.

Mae gan Alison dros 30 mlynedd o brofiad, a bydd hi’n cynghori’r briodferch, merched y briodas, Mam y briodferch / priodfab ar arddull gwisg, maint a lliw, a bydd yr holl newidiadau i’r ffrog briodas a’r gwisgoedd priodas yn cael eu gwneud ganddi hi ei hun. Does dim angen i chi boeni dim am yr amserlen yn arwain at eich diwrnod mawr.

Helen @lenawarburton millinery yw ein cynllunydd penwisgoedd, fydd yn sicrhau eich bod yn cael penwisg unigryw at eich dant.

Gallwch drefnu ymgynghoriad trwy apwyntiad – cyfle i ddod o hyd i’r ‘UN’ a threialu’r colur a’r gwallt ar gyfer pawb o griw’r briodas.

Fe’ch cynghorir i gadw lle o flaen llaw – ffoniwch yr ystafell arddangos neu’r salon am brisiau ac argaeledd.

Diolch, Christa, Angela, Alison a Helen

 

Christa: Dylunydd harddwch

Angela: Steilydd

Alison: Dylunydd Ffasiwn / Gwneuthurwr Gwisgoedd

Helen: Cynllunydd hetiau

Siop Llanilar

Siop y Pentref, Llanilar.
Lizzie Spikes

Lizzie Spikes

Artist lleol sy’n defnyddio broc môr fel ei chynfas.

Ultracomida

Siop sy’n arbenigo mewn bwyd a diod o Gymru, Sbaen a Ffrainc.

Siop Manon

Rydw i’n caru popeth ‘vintage’ ag unrhyw beth i wneud efo ‘nostalgia’!