Clwb Bowlio Tregaron, Tregaron, SY25 6HX
Clwb bowlio sy’n darparu bwyd a diod yn ddyddiol. Rydym wedi ein lleoli dafliad carreg o’r maes. Dros gyfnod yr Eisteddfod byddwn ar agor bob dydd rhwng 7yb a 10yb i ddarparu brecwast ac yna rhwng 4yp a 12yh i ddarparu bwyd a diod. Mae gennym far gydag amrywiaeth eang o ddiodydd, a bwyd fydd at ddant pawb!
Ymunwch a ni ar nos Fawrth 2il Awst pan fydd y band Moniars yn ymuno a ni i’n diddanu. Does dim angen tocynnau. Bydd croeso cynnes yn eich disgwyl.