Canolfan Rhiannon tu allan

Canolfan Rhiannon

Canolfan sydd yn cynnwys siop gemwaith, siop crefftau, oriel, amgueddfa, ac yn cynnig llwyfan rhagorol ar gyfer popeth sydd orau mewn gemwaith Cymreig, y celfyddydau gweledol a chrefftau cain.

siop crefftau
Oriel Rhiannon
siop emwaith

Y Sgwâr, Tregaron, SY25 6JL

Lleolir Canolfan Cynllun Crefft Cymru Rhiannon o fewn Canolfan Rhiannon, sydd yng nghalon tref fechan Gymreig Tregaron, yng nghanol golygfeydd ysblennydd cors Caron a Mynyddoedd Cambria. Mae’r Ganolfan yn cynnig llwyfan rhagorol ar gyfer popeth sydd orau mewn gemwaith Cymreig, y celfyddydau gweledol a chrefftau cain. Sefydlwyd y ganolfan ym 1971 gan Rhiannon Evans, dylunydd gemwaith sydd ag enw da yn rhyngwladol am ei dehongliadau gwreiddiol ac unigryw o’r traddodiadau artistig Cymreig a Cheltaidd.

Mae Canolfan Rhiannon yn drysorfa o grefftau cain, nwyddau cartref unigryw a bwydydd lleol blasus. Mae ein crefftau i gyd wedi eu gwneud mor lleol â phosib, ac nid ydym yn cadw gwaith masgynyrchedig nac wedi’i fewnforio.

Mae’r Ganolfan yn cynnwys amrywiaeth o atyniadau eraill hefyd. Gallwch chi wylio gemwaith yn cael ei wneud â llaw yn ein gweithdai arddangos gan ein gofaint arian ac aur, gan ddefnyddio Aur Cymru prin a gwerthfawr a gloddiwyd ychydig filltiroedd i ffwrdd yn y gogledd; chwilio am eich darn cyntaf o gelfyddyd, neu ychwanegu at eich casgliad o weithiau Cymreig yn ein Oriel celfyddyd gain; neu ymlacio yn y caffi gyda’i iard hardd a diarffordd. Mae cyfle hefyd i bori drwy ein Amgueddfa o greiriau Celtaidd sy’n dilyn esblygiad celfyddyd y Celtiaid hyd at heddiw.

Fandangles

Siop annibynol yng nghanol Llanberis sydd yn gwerthu pob math o bethau anarferol a diddorol.

Oriel Llun Mewn Ffrâm

‘Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau fframio a blas ar weithiau artistiaid lleol.

Stiwdio Creu

Stiwdio yng Nglynllifon sy’n gwerthu pob math o grefftau.

Crefftau Hana

Gweithio ar doli’s preniau(maint 65mm)wedi ei neud â llaw.