A hithau’n fis Ionawr, braf yw cychwyn bwrlwm blwyddyn newydd yn y bragdy. Rhai ohonoch yn sych drwy’r mis hwn o bosib, ond eraill efallai yn parhau i fwynhau rhyw lymaid achlysurol dros y galon.
A sôn am galon….mae’n debyg eich bod yn gwybod yn iawn ein bod ar fîn dathlu Diwrnod Santes Dwynwen yma yng Nghymru. Ers blynyddoedd maith bellach, mae Ionawr 25ain yn ddyddiad pwysig yn ein calendr ni’r Cymry, ac yn achlysur gwych i ddatgan ein cariad!
Dyna’n union yr ydyn ni yma ym Mragdy Mona wedi’w wneud…taflu ein cariad eto i mewn i’n cwrw.
Gyda balchder a phleser, fe allwn gyhoeddi fod Dwynwen yn ei hôl ac yn ei gogoniant unwaith eto eleni. Penderfyniad anodd oedd bragu Dwynwen unwaith eto, gan mai’r diweddar Huw Gethin, ein sylfaenydd oedd y dwytha i fragu’r cwrw hwn nôl yn 2021, ond fe wyddwn y byddai’n falch o weld Dwynwen ar ein silffoedd unwaith yn rhagor!
Dyma gwrw mefus pinc golau sy’n berffaith o felys a ffrwythus. Mae’n saff o godi gwên ac yn anrheg perffaith i gymar.
Mae ein bragwyr, Rhys ag Iwan yn ffyddiog y cewch eich plesio, ac yn eich annog i ymweld â’n gwefan – y lle i ddod o hyd i’r anrheg perffaith i’r partner perffaith!
Mwynhewch….
ac oddi wrthym ni oll yma ym Mragdy Mona – gawn ni ddymuno Diwrnod Santes Dwynwen llawn hapusrwydd a chariad (a chwrw!) i chi gyd!