Siop ‘eiconig’ T. J. Davies a’i Fab 

Y siop i gau ei drysau 7 Mawrth 2023

T.J.Davies a’i Fab
gan T.J.Davies a’i Fab

Mae busnes gemwaith a llestri T. J Davies a’i Fab yn Aberystwyth yn paratoi i gau ei drysau am y tro olaf ar Ddydd Mawrth 7 Mawrth 2023.

Mae hon yn siop deuluol annibynnol sydd wedi gwasanaethu cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg ers 75 mlynedd,

Rhan o’r rheswm pam fod y siop yn cau yw oherwydd marwolaeth sydyn John Davies, y perchennog. Yn ymroddedig i’w waith, roedd John Davies a’i fusnes yng nghalon y gymuned.

Mae’r teulu’n dweud eu bod yn ddyledus iawn i’w staff tymor hir ffyddlon am eu holl gefnogaeth a’u teyrngarwch, yn enwedig yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf ers iddyn nhw golli John Davies.

Mae prisiau gemwaith a llestri dethol wedi’u gostwng hyd at 70% heddiw.

Dweud eich dweud