Golwg yn cynnig 10% i ffwrdd tocyn tanysgrifiad i ffrind

Wythnos yn weddill i brynu tanysgrifiad i Wcw, Chwys, Lingo Newydd neu Golwg am bris gostyngol

Golwg-CerdynDolig-5x7-2

Ydy’ch rhestr anrhegion yn hir, a’r Nadolig yn nesáu?

Wel, mae gan gwmni Golwg roddion i siwtio pawb o bob oed!

I’r rhieni sydd “ddim angen dim byd” > Cylchgrawn Golwg

I’r cyfaill sy’n dysgu Cymraeg > Cylchgrawn Lingo Newydd

I’r ffrindiau sy’n ffans chwaraeon > Cylchgrawn digidol Chwys

I’r wyrion neu’r plant > Cylchgrawn Wcw a’i ffrindiau

Prynwch docyn tanysgrifio i un o’r cylchgronau erbyn 17 Rhagfyr a nodi’r cod DOLIG23 er mwyn cael 10% i ffwrdd o’r pris.

A dyna chi, wedi cefnogi busnes annibynnol a rhoi anrheg sy’n para blwyddyn y ’Dolig yma!