Swyddi ar gael!

Gwe Cambrian Web yn hysbysebu ar gyfer swyddi, Aberystwyth

Gwe Cambrian Web
gan Gwe Cambrian Web
Review5

Mae Gwe Cambrian Web, Aberystwyth yn ehangu! Rydym yn hysbysebu 3 swydd wahanol ar hyn o bryd:

  • Marchnatwr Digidol: marchnata ein busnes, rheoli marchnata a chyfryngau cymdeithasol cleientiaid
  • Rheolwr Prosiectau & Cleientiaid: edrych ar ôl ein cleientiaid a rheoli prosiectau’r cwmni
  • Crefftwr Gwefannau: rôl hyblyg – adeiladu gwefannau, dylunio neu ddatblygu!

Dyddiad cau: 29/07/2022

Lleoliad: Aberystwyth (yn ein swyddfa)

Cyflog: £21,000 i £24,000 dibynnol ar brofiad, rydym yn hapus i drafod

Rydym yn gobeithio cael ceisiadau ar gyfer rolau llawn amser, ond yn hapus hefyd i drafod rhan amser fel opsiwn.

Mae’r Gymraeg yn hanfodol i’r swyddi yma, ac rydym yn hapus iawn i gefnogi unrhyw ddysgwyr. Iaith ein swyddfa yw Cymraeg felly mae cyfle da i chi fel dysgwyr siarad yr iaith yn fwy amal.

Fel cwmni, rydym yn angerddol am ein gwaith: creu gwefannau gwych, rheoli cyfryngau cymdeithasol ar gyfer cleientiaid gwahanol dros Gymru, optimeiddio peiriannau gwe, darparu gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg, gweld mwy o’r Gymraeg ar y we, cefnogi busnesau lleol a hefyd – rhoi Cymru ar y map!

Rydym yn edrych am ymgeiswyr angerddol a brwdfrydig. Am wybodaeth lawn ar gyfer pob swydd, ewch i cambrianweb.com/swyddi, neu i ymgeisio ebostiwch hefo llythyr i gyflwyno eich hun & CV i kerry@cambrianweb.com.