Cyffro’r Clwb i’r Eisteddfod!

Mae am fod yn wythnos i’w chofio!

Clwb Rygbi Tregaron
gan Clwb Rygbi Tregaron

Gyda’r Eisteddfod mond wythnos i ffwrdd.

Mae’r clwb yn hynod o gyffrous i groesawu chi i’r Eisteddfod!

Dengys y fideo yma ein bod ni ond nepell o’r maes ! Mi fyddwch chi gyda ni o dan 5 munud o gerdded!

Rydym wedi bod wrthi yn arddurno y ffenestri er mwyn harddu y clwb.

Newyddion grêt hefyd yw ein bod ni yn y clwb yn gartref i gigs Cymdeithas yr iaith!

Mi fydd y babell yn y maes parcio.

Dewch draw am beint a chlonc a chyfle i gymdeithasu a gwrando ar fandiau gorau y Sín Rôc Gymraeg

Byddwn ni ar agor bob dydd a nos gyda byrgyrs a hog roast i’ch bwydo!

Mae’r Eisteddfod yma wedi bod yn hir ddisgwyliedig ac rydym yn awyddus i ddangos Croeso Ceredigion a Thregaron go iawn i chi yn y clwb!

Welwn ni chi ’na!

???