





Mae Eisteddfod Ceredigion wedi cyrraedd o’r diwedd. Mae’n achlysur pwysig i T.J.Davies a’i Fab gan ei bod yn gyfle i ni gwrdd â chwsmeriaid sydd wedi troi’n ffrindiau dros y blynyddoedd a chysylltu gyda phobl newydd na fyddai o reidrwydd yn dod i Aberystwyth.
Gan fod Tregaron mor agos rydym wedi penderfynu dathlu’r Eisteddfod o’n siop yn Aberystwyth eleni yn lle bod ar y Maes. Mae’r Siop Gemwaith a’r Siop Lestri i gyd o dan un to ers mis Ebrill 2022 ac felly mae hyn yn gyfle i bawb ymweld â’r siop yn ei newydd wedd.
Gan ein bod wedi bod yn disgwyl yr Eisteddfod gyhyd mae gennym 6 Cynnig Arbennig eleni.
Am gyfle i ennill, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw galw draw yn ein siop yn Aberystwyth yn ystod wythnos yr Eisteddfod rhwng 30 Mehefin – 6 Awst 2022 neu
– Hoffi ein Tudalen Facebook
– Hoffi’r post
– Rhannu’r llun
– Ymunwch â’n Cylchlythyr ar ein gwefan https://tjdaviesandson.com
Bydd y gystadleuaeth yn cau Nos Sadwrn 6 Awst 2022.